Mae papur newydd y Fatican wedi beirniadu rhifyn arbennig o gylchgrawn dychanol ‘Charlie Hebdo’, sy’n nodi blwyddyn union ers y gyflafan yn eu swyddfeydd ym Mharis.
Mae’r rhifyn arbennig yn cynnwys llun o Dduw â gwaed ar ei ddillad ac yn cario dryll Kalashnikov dros ei ysgwydd.
Mae’r pennawd yn dweud: ‘Flwyddyn yn ddiweddarach: mae’r llofrudd allan yno o hyd’.
Cyfeiria’r papurau newydd, Osservatore Romano at “baradocs trist y byd sydd yn fwyfwy sensitif am fod yn wleidyddol gywir, bron nes bod yn chwerthinllyd, ond nid yw am gydnabod na pharchu ffydd credinwyr yn Nuw, beth bynnag am eu crefydd”.
Ychwanega’r papur newydd: “Y tu ôl i’r faner dwyllodrus o seciwlariaeth ddigyfaddawd, mae’r wythnosolyn yn anghofio unwaith eto fod arweinwyr crefyddol o bob ffydd yn anghofio fwyfwy i wrthod trais yn enw crefydd – gan ddefnyddio Duw i gyfiawnhau’r ffaith fod casineb yn gabledd go iawn, fel y mae’r Pab Ffransis wedi dweud droeon.”
Mae disgwyl i hyd at 1 miliwn o gopïau o’r cylchgrawn fynd ar werth mewn siopau ar draws Ffrainc.
Cafodd 12 o bobol eu lladd yn swyddfeydd y cylchgrawn pan aeth brawychwyr i mewn a’u saethu’n farw – roedd wyth aelod o staff y cylchgrawn yn eu plith.
Adeg y gyflafan, dywedodd y Pab Ffransis ei fod yn condemnio’r digwyddiad ond rhybuddiodd na ddylid sarhau unrhyw grefydd.
“Os yw ffrind da yn dweud rhywbeth drwg am fy mam, fe all ddisgwyl cael ei daro, ac mae hynny’n arferol. Allwch chi ddim procio, allwch chi ddim sarhau ffydd pobol eraill, allwch chi ddim ei ddychanu.”