Connor Williams, 17, chwith, a Conor Tiley, 18, o Aberbargod
Mae bachgen 17 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus yn dilyn gwrthdrawiad nos Sul yn yr Hengoed, ger Caerffili.

Bu farw Conor Tiley, 18 a Connor Williams, 17 o Aberbargod yn y gwrthdrawiad, ac mae dyn 18 oed o’r un pentref yn dal i fod yn yr ysbyty gydag anafiadau difrifol.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng Ford Fiesta a Vauxhall Astra ac mae Heddlu Gwent yn ymchwilio i adroddiadau bod trydydd cerbyd yn gysylltiedig a’r ddamwain.

Maen nhw’n apelio am dystion.

Mae’r bachgen, o bentref Pengam, yng Nghwm Rhymni, sydd wedi cael ei arestio yn cael ei gadw yn y ddalfa ac mae ymchwiliadau’r heddlu’n parhau.

Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth yn ymwneud â’r gwrthdrawiad ffonio 101 gan ddyfynnu 388 03/01/16.