Kim Jong Un
Mae Gogledd Corea wedi honni ei bod wedi cynnal prawf bom hydrogen pwerus fel rhan o’i rhaglen niwclear.
Yn ôl cyhoeddwr ar deledu’r wlad, roedd y prawf yn “lwyddiant perffaith” ac mae’r newyddion annisgwyl wedi ennyn ymateb chwyrn ledled y byd.
Dywedodd Ysgrifennydd Tramor Prydain, Philip Hammond, fod y prawf yn “bryfoclyd” ac yn mynd yn groes i reolau Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig.
Roedd y newyddion am y bom yn annisgwyl gan nad oedd yr arweinydd Kim Jong Un wedi son am y datblygiad yn ei araith yn y Flwyddyn Newydd.
Mae bomiau hydrogen yn fwy pwerus na bomiau atomig ac mae’n anoddach eu gwneud.
Fe wnaeth Arolwg Daearegol America fesur daeargryn yng ngogledd ddwyrain y wlad oedd yn mesur 5.1 ar raddfa Richter, sy’n fwy pwerus na’i bomiau blaenorol yn 2013, 2009 a 2006.
Dywedodd un o asiantaethau newyddion De Corea fod y daeargryn wedi dod 30 milltir i’r gogledd o Kilju, lle mae prif safle niwclear Gogledd Corea.
Awgrymodd De Corea y gallai ei chymydog wynebu rhagor o sancsiynau gan y Cenhedloedd Unedig o ganlyniad.
Roedd Prif Weinidog Siapan, Shinzo Abe, hefyd yn feirniadol, gan ddweud: “Yn bendant, ni allwn ganiatáu hyn ac rydym yn ei gondemnio’n gryf.”