Jeremy Corbyn
Mae Jeremy Corbyn wedi diswyddo dau aelod blaenllaw o’i gabinet oherwydd eu “diffyg teyrngarwch”.

Ond ar ôl mwy na 30 awr o drafodaethau, fe lwyddodd Hilary Benn i gadw ei swydd fel llefarydd tramor yr wrthblaid.

Fe gyhoeddodd yr arweinydd Llafur ei fod yn diswyddo llefarydd Ewrop Pat McFadden ynghyd a’r llefarydd diwylliant Michael Dugher.

Mae Maria Eagle yn cael ei symud o’i rôl fel llefarydd amddiffyn yr wrthblaid i swydd Michael Dugher. Roedd hi wedi gwrthwynebu dymuniad Corbyn i beidio adnewyddu system daflegrau niwclear Trident.

Emily Thornberry, sy’n cydweld a’r arweinydd o ran Trident, fydd yn cymryd ei lle.

Pat Glass fydd yn olynu Pat McFadden.

Mae’r llefarydd rheilffyrdd Jonathan Reynolds hefyd wedi cyhoeddi bore ma ei fod wedi ymddiswyddo o feinciau blaen Llafur.

‘Cytundeb’ gyda Hilary Benn

Yn ôl ffynhonnell yn y Blaid Lafur, mae Jeremy Corbyn wedi dod i “gytundeb” gyda Hilary Benn na fydd yn mynd yn groes i’r arweinydd yn gyhoeddus fel y gwnaeth ynglŷn â’r bleidlais dros ymestyn cyrchoedd awyr y DU i Syria.

Cafodd y newidiadau eu cwblhau am 12.45yb y bore ma ac maen nhw wedi siomi rhai Aelodau Seneddol Llafur, ond yn llawer llai dramatig nag oedd eraill wedi disgwyl.

Dywedodd y ffynhonnell bod Michael Dugher wedi dangos “diffyg teyrngarwch” tra bod Pat McFadden wedi beirniadu’r arweinydd ar faterion fel ei ymateb i’r ymosodiadau brawychol ym Mharis.

Fe bwysleisiodd y ffynhonnell bod 17 o ferched ac 14 o ddynion bellach yng nghabinet llawn yr wrthblaid.