Simon Lewis fu farw yn y gwrthdrawiad Nos Galan
Mae dyn 29 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus yn dilyn gwrthdrawiad yng Nghaerdydd ar Nos Galan.
Bu farw Simon Lewis, 33, o Trowbridge, Caerdydd ar ôl i’w gar Daihatsu Sirion fod mewn gwrthdrawiad a char Peugeot 307 yn Ffordd Lamby, Caerdydd a oedd yn cael ei yrru gan y dyn.
Mae gyrrwr y Peugeot yn parhau i gael triniaeth yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd ond nid yw ei anafiadau yn rhai sy’n bygwth ei fywyd. Mae’r dyn hefyd wedi ei gyhuddo o gymryd cerbyd heb ganiatâd, gyrru tra wedi ei wahardd, a gyrru heb yswiriant.
Roedd gwraig Simon Lewis, Amanda, oedd yn feichiog, a’u merch tair oed, Summer, hefyd yn teithio yn y car pan ddigwyddodd y ddamwain. Cafodd y ddwy eu cludo i’r ysbyty ond eu rhyddhau yn ddiweddarach.
Ond yn dilyn pryder am ei babi, cafodd Amanda Lewis ei chludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yn ddiweddarach er mwyn cael llawdriniaeth brys i roi genedigaeth i’w babi, dri mis yn gynnar.
Ond fe gyhoeddwyd heddiw fod y bachgen bach wedi marw yn yr ysbyty ddydd Sul.
Apelio am wybodaeth
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad am tua 5.30yh nos Iau 31 Rhagfyr, rhyw chwarter milltir oddi wrth gylchfan Rover Way.
Mae Heddlu De Cymru yn parhau i apelio am unrhyw dystion i’r digwyddiad neu rywun welodd y Peugeot 307 yn cael ei yrru cyn y ddamwain i gysylltu â nhw ar 101 gan ddefnyddio’r rhif cyfeirnod *480293.