Sian Blake
Mae ditectifs yn chwilio am bartner un o gyn-actoresau’r opera sebon, EastEnders, wedi i’r heddlu ddod o hyd i dri chorff wrth chwilio am yr actores a’i dau o blant.

Fe ddiflannodd Sian Blake, 43 oed, o ddwyrain Llundain ar Ragfyr 13 gyda’i meibion Zachary, 8 oed, ac Amon, 4 oed. Arferai Sian Blake chwarae rhan Frankie Pierre yn yr opera sebon.

Tridiau’n ddiweddarach, fe gafodd ei phartner Arthur Simpson-Kent, 48 oed, a thad y plant ei holi gan yr heddlu yn eu cartref yn Erith, yng Nghaint, cyn iddo yntau ddiflannu.

Mae swyddogion yr heddlu wedi cadarnhau eu bod wedi dod o hyd i gyrff mewn gardd yn Erith, Kent a bod ymchwiliad i’w llofruddiaeth yn cael ei gynnal.

Parhau i chwilio am y partner

Fe ddywedodd Paul Monk, Ditectif Uwch-arolygydd New Scotland Yard, nad ydyn nhw wedi adnabod y cyrff yn ffurfiol eto, ond bod “y teuluoedd wedi’u hysbysu a’u bod hi’n amlwg yn amser anodd iawn iddyn nhw.”

“Mae ein hymdrechion yn parhau wrth geisio chwilio am Arthur Simpson-Kent,” meddai gan alw ar unrhyw un sy’n gwybod am ei leoliad i gysylltu â’r heddlu.

Gwelwyd Sian Blake a’i phlant diwethaf yn Waltham Forest, dwyrain Llundain ar Ragfyr 13. Daethpwyd o hyd i’w char Renault Scenic yn Bethnal Green, dwyrain Llundain ar Ionawr 3, ond does dim cadarnhad pwy oedd wedi’i adael yno.

‘Trychineb’

Roedd y cyn-actores yn dioddef o glefyd motor niwron ac, yn ôl adroddiadau, edrychai’n “fregus iawn” cyn iddi ddiflannu.

“Mae hyn yn drychineb ac mae’n ofnadwy i’r gymuned. Dw i’n gallu gweld popeth yn yr ardd ond dros y diwrnodau diwethaf dw i wedi dewis peidio ag edrych,” meddai un o’i chymdogion, Sam Sanni-Alashe.

Fe ychwanegodd cymydog arall nad oedd am gyhoeddi ei enwi, “Roeddwn i’n gobeithio ei bod hi’n cuddio er mwyn cael ei Nadolig olaf.”

“Roeddwn i’n gwybod ei bod hi’n sâl iawn, ond ddim yn gwybod gyda beth. Dw i’n teimlo’n ofnadwy.”