Fe fydd cynrychiolwyr o Bwyllgor Deisebau Senedd Ewrop yn teithio i Gatalwnia yn ystod ail hanner y flwyddyn nesaf i ddadansoddi’r defnydd o Sbaeneg mewn ysgolion.

Daw hyn ar ôl i gwota gael ei gyflwyno sy’n mynnu bod rhaid i 25% o wersi fod trwy gyfrwng y Sbaeneg.

Mae disgwyl i aelodau’r ddirprwyaeth, eu hagenda a’u hamserlen gael eu cadarnhau yn y dyfodol agos, ond mae disgwyl i’r ymweliad ddigwydd rhwng mis Gorffennaf a mis Rhagfyr 2023 yn sgil etholiadau lleol mis Mai.

Y gred yw y bydd ambell Aelod Seneddol Ewropeaidd yn rhan o’r ddirprwyaeth er mwyn cyfweld â nifer o unigolion a mudiadau sydd ynghlwm wrth y ddadl.

Bydd dadl swyddogol yn cael ei chynnal yn ystod tymor cyntaf 2023, a bydd hynny’n cynnwys trafodaeth ar system drochi Catalwnia.

Cwota

Yn ystod y daith, bydd y cwota o 25% o wersi trwy gyfrwng y Sbaeneg dan y chwyddwydr yn dilyn dyfarniad y Goruchaf Lys.

Mae Llywodraeth Catalwnia wedi bod yn herio’r dyfarniad, gan gynnwys cyflwyno mesurau newydd i warchod y Gatalaneg mewn ysgolion.

Mae’r mesurau hyn yn gosod y Gatalaneg yn brif iaith addysg Catalwnia, ond mae’r Sbaeneg yn eilradd a heb unrhyw fath o gwota, gan roi’r penderfyniad yn nwylo ysgolion unigol faint o addysg plant sydd trwy gyfrwng yr iaith.

Mae’r system drochi ar waith yng Nghatalwnia ers degawdau, a hynny er mwyn gwarchod y Gatalaneg rhag dylanwad y Sbaeneg fel prif iaith addysg, gwarchod dwyieithrwydd ac osgoi creu cymunedau iaith ar wahân oddi wrth ei gilydd.

Dechrau’r ffrae oedd her gyfreithiol yn y Goruchaf Lys yn Sbaen yn 2015, ac fe arweiniodd hynny at ddyfarniad gan yr Uchel Lys yn gynharach eleni yn cadarnhau bod gan ysgolion Catalwnia ddeufis yn unig i gyflwyno’r cwota.

Cafodd mesurau eu pasio yng Nghatalwnia wedyn er mwyn ceisio osgoi gweithredu’r cwota ond cafodd hynny ei herio yn Llys Cyfansoddiadol Sbaen gan bleidiau asgell dde.

Wrth i’r llys ystyried y mater, mae’r system drochi yn dal yn ei lle yn y rhan fwyaf o ysgolion ond gallai’r un dyfarniad alluogi ysgolion eraill i gyflwyno’r cwota.