Mae Llafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn galw am ymchwiliad i Suella Braverman, ar ôl iddi gael ei hailbenodi’n Ysgrifennydd Cartref chwe niwrnod yn unig ar ôl iddi gael ei diswyddo.

Mae’r ddwy blaid wedi codi pryderon “diogelwch cenedlaethol” ac wedi mynnu ymchwiliad gan y Swyddfa Gabinet.

Bu’n rhaid i Aelod Seneddol Fareham yn Hampshire adael ei rôl yn Ysgrifennydd Cartref ar ôl iddi dorri’r cod gweinidogol drwy anfon dogfen swyddogol at aelod meinciau cefn Torïaidd o gyfrif e-bost personol.

Dywedodd Suella Braverman, oedd wedi bod yn y rôl chwe wythnos, ei bod wedi gwneud “camgymeriad” gan dderbyn bod yr hyn wnaeth hi’n torri’r rheolau.

Galw am “dryloywder”

Ysgrifennodd Yvette Cooper, llefarydd materion cartref yr wrthblaid, at Simon Case, Ysgrifennydd y Cabinet, yn mynnu ymchwiliad.

“O ystyried penderfyniad y Prif Weinidog i’w hailbenodi i swydd Cabinet sy’n goruchwylio diogelwch cenedlaethol, mae’n hanfodol i’r cyhoedd gael tryloywder ar yr hyn a ddigwyddodd,” meddai.

“Rhaid iddo gynnwys maint defnydd yr Ysgrifennydd Cartref o gyfrifon e-bost preifat i ddosbarthu papurau’r Llywodraeth ac i ba raddau y mae dogfennau swyddogol wedi’u hanfon y tu allan i’r Llywodraeth, yn ogystal ag unrhyw bryderon eraill sydd wedi’u codi am ryddhau gwybodaeth ddifrifol a thoriadau diogelwch posib eraill gan Suella Braverman.”

‘Ddim yn addas’

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol hefyd yn galw ymchwiliad i benderfyniad Rishi Sunak i’w hailbenodi, “gan gynnwys unrhyw addewidion a wnaeth Sunak iddi y tu ôl i ddrysau caëedig”.

“Os oes yna gadarnhad bod Suella Braverman wedi torri’r cod gweinidogol dro ar ôl tro ac yn bygwth diogelwch cenedlaethol, rhaid ei diswyddo,” meddai Alistair Carmichael, llefarydd materion cartref y blaid.

“Dydy Ysgrifennydd Cartref a dorrodd y rheolau ddim yn addas ar gyfer y Swyddfa Gartref.”

‘Embaras’

Yn ôl Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, mae amddiffyniad Rishi Sunak o Suella Braverman yn “destun embaras”.

“Os oes angen bygythiad diogelwch gwarthus arno yn y Gabinet, mae e hyd yn oed yn wannach na’i ragflaenydd,” meddai.

“Mae system San Steffan o wiriadau a chydbwysedd yn ddiwerth pan fod rhywun poblyddol gwan wrth y llyw.”