Ddiwrnodau’n unig sydd ar ôl i’r cyhoedd gael dweud eu dweud ar yr opsiwn i gynyddu premiymau treth y cyngor ar ail gartrefi a thag gwag yng Ngwynedd.

Bydd ymgynghoriad cyhoeddus Cyngor Gwynedd ar y cynnydd arfaethedig mewn trethi’n dod i ben ddydd Gwener (Hydref 28).

Ers mis Ebrill, mae perchnogion ail gartrefi ac eiddo sy’n wag yn y tymor hir wedi bod yn talu premiwm o 100%, a 50% rhwng Ebrill 1, 2018 a Mawrth 31, 2021.

Ond yn dilyn newid yn y ddeddfwriaeth ym mis Mawrth eleni, fe drosglwyddodd Llywodraeth Cymru y pwerau i awdurdodau lleol i allu cynyddu’r premiwm ar dreth y cyngor i 300% o Ebrill 1 y flwyddyn nesaf.

Ystyr ail gartref fel arfer yw preswylfa nad yw’n brif gartref nac unig gartref rhywun, ac sydd wedi’i osod â chelfi.

Gall gynnwys eiddo ar gyfer gwyliau byr lle mae’n rhaid talu treth y cyngor sydd heb fod yn gymwys ar gyfer eithriadau statudol.

Ystyr eiddo gwag tymor hir yw preswylfa sy’n wag ac heb gelfi am gyfnod parhau o flwyddyn neu fwy.

‘Diolch’

“Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cymryd ychydig funudau i leisio’u barn ar y mater pwysig hwn,” meddai’r Cynghorydd Ioan Thomas, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd sydd â chyfrifoldeb am Gyllid.

“Os nad ydych chi eisoes wedi cymryd rhan, mae gennych chi tan Hydref 28 i lenwi’r holiadur a byddwn yn eich annog i wneud hynny.

“Mae Cyngor Gwynedd wedi bod yn codi Premiwm Treth y Cyngor ar ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor ers 2018, ac yn buddsoddi’r arian sy’n cael ei godi mewn cynlluniau i ddarparu cartrefi fforddiadwy ac addas ar gyfer pobol leol.”

Bellach, mae gan y Cyngor yr hawl i gynyddu’r premiwm ymhellach hyd at 300% yn dilyn newidiadau i’r ddeddfwriaeth genedlaethol.

“Rydym yn awyddus i glywed barn y cyhoedd er mwyn sicrhau bod gan bob cynghorydd yr holl wybodaeth berthnasol – gan gynnwys adborth gan y cyhoedd ar effaith bosib unrhyw newid ar gymunedau’r sir – cyn iddyn nhw bleidleisio ar y mater yng nghyfarfod llawn y Cyngor ar Ragfyr 1,” meddai Ioan Thomas wedyn.

“Felly os nad ydych chi eisoes wedi llenwi’r holiadur, ac os oes gennych chi farn ar y mater, plîs manteisiwch ar y cyfle hwn cyn i’r ymgynghoriad gau.”

Bydd Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu’r Cyngor yn ystyried canlyniadau’r ymgynghoriad ar Dachwedd 17.

Bydd Cabinet Cyngor Gwynedd yn ystyried canlyniadau’r ymgynghoriad a chasgliadau’r pwyllgor ar Dachwedd 22.

Bydd y Cyngor llawn yn gwneud eu penderfyniad terfynol ar lefel y premiwm ar Ragfyr 1, wrth iddyn nhw osod treth y cyngor ar gyfer 2023-24 yn unol â gofynion statudol.

Mae modd cwblhau’r ymgynghoriad drwy fynd i https://www.gwynedd.llyw.cymru/cy/Cyngor/Dweud-eich-dweud/Ymgynghoriadau-byw/Premiwm-Treth-Cyngor.aspx, ac mae copïau papur ar gael ym mhob llyfrgell neu yn Siop Gwynedd yn swyddfeydd y Cyngor yng Nghaernarfon, Dolgellau a Phwllheli neu drwy ffonio 01286682682.