Mae Sweden wedi tynhau diogelwch er mwyn ceisio atal nifer y mewnfudwyr sy’n cyrraedd y wlad ar drenau, bysys neu longau fferi.
I gydymffurfio â rheolau newydd Sweden, rhaid i deithwyr ddangos cerdyn adnabod i fynd ar drenau sy’n gadael maes awyr Copenhagen yn Denmarc i Sweden.
Dyma’r wlad ddiweddaraf yn yr Undeb Ewropeaidd i wrthod cytundeb yr undeb i gadw ei ffiniau mewnol ar agor.
Fe wnaeth llywodraeth Sweden benderfynu tynhau eu rheolau mewnfudo ar ôl i 160,000 o bobol geisio am loches yno’r llynedd – y nifer uchaf yn Ewrop, heblaw am yr Almaen.
Roedd y rhan fwyaf ohonyn nhw’n dod o Syria, Irac ac Afghanistan.
Mae Denmarc hefyd wedi cyhoeddi ei bod yn tynhau rheolau ar y ffin gyda’r Almaen dros dro.
Roedd swyddogion o Ddenmarc wedi beirniadu penderfyniad Sweden i dynhau rheolau ac wedi awgrymu y dylai Sweden dalu am y gost o wirio’r cardiau adnabod.