Mae cost angladdau ym Mhowys wedi cynyddu wrth i’r cyngor sir geisio adfer costau rheoli ei fynwentydd.

Mae Cyngor Powys yn cynnal a chadw 19 o fynwentydd ar draws y sir ac mae’r gost o wneud hyn yn “ddrud iawn” yn ôl yr awdurdod lleol.

Daw’r penderfyniad yn dilyn “pwysau ariannol difrifol” a’i fod yn gorfod arbed £27m dros y tair blynedd nesaf.

Cyngor Powys a wnaeth ddioddef y mwyaf o doriadau i awdurdodau lleol Cymru hefyd, ar ôl i’r llywodraeth gyhoeddi y bydd yn cael gostyngiad o 4.1% – tua £6m o’i gyllideb ar gyfer 2016/17.

‘Dim dewis’

 

Ymhlith rhai o’r gwasanaethau profedigaeth a fydd yn gweld cynnydd fydd cofrestru claddedigaeth, torri beddi, gwasgaru llwch a phrynu hawl unigryw i gladdu.

Bydd y pris o dorri bedd sengl yn codi o £376.91 i £621.90. Bydd pobol sydd am gladdu gweddillion wedi’i hamlosgi bellach yn gorfod talu £196.81, o gymharu â £119.28 cyn mis Ionawr.

Ac am angladdau ar ddydd Sadwrn, lle nad oedd tâl ychwanegol yn y gorffennol, bydd bellach yn rhaid i drigolion Powys dalu £400.

Ar gyfer pobol sy’n byw y tu allan i Bowys, bydd ffioedd ar gyfer claddu yn y sir yn dyblu.

Dywedodd y Cynghorydd John Powell, Aelod o’r Cabinet sy’n gyfrifol am ddiogelu’r amgylchedd, nad oedd y penderfyniad i godi’r ffioedd yn hawdd, ond bod “dim dewis” gan y Cyngor.

“Mae’r gwaith o reoli ein 19 o fynwentydd yn ddrud iawn, ac mae’r costau’n cynnwys torri beddi a gwaith cynnal a chadw rheolaidd ar ein mynwentydd. Trwy godi’r ffioedd, gallwn adfer holl gostau’r gwasanaethau hyn,” meddai.