Mae tair o’r prif archfarchnadoedd wedi torri eu prisiau tanwydd heddiw, gan olygu fod eu pris disel yn llai na £1 y litr.

Asda oedd y cyntaf i gymryd y cam, gyda Tesco a Sainsbury’s yn dilyn wedyn.

Bellach, mae pris disel yn 99.7 ceiniog y litr yng ngorsafoedd llenwi Asda, sy’n golygu ei fod yr un pris â phetrol am y tro cyntaf mewn chwe blynedd.

Mae Tesco wedi cadarnhau y byddan nhw hefyd yn torri pris eu disel i 99.7 ceiniog y litr yn y 500 o’u gorsafoedd llenwi. Bydd Sainsbury’s yn torri pris eu disel i 99.9 ceiniog y litr, gan nodi fod eu pris petrol wedi bod yn llai na £1 ers Rhagfyr 12.

Er bod cyfarwyddwr Sefydliad yr RAC, Steve Gooding, yn croesawu’r gostyngiadau hyn, mae’n  cwestiynu pam na welwyd y toriadau yn gynt.

“Mae pris cyfanwerthol disel wedi bod yn is na phetrol ers dechrau Rhagfyr, ond mae’r stori wedi bod yn wahanol wrth y pympiau gyda disel 3 i 4 ceiniog y litr yn uwch yn ystod y cyfnod hwnnw.”

Disgyn mwy fyth…?

Yn ystod y mis diwethaf, mae pris petrol wedi bod yn is na £1 y litr hefyd, a hynny am y tro cyntaf ers 2009.

Yn ôl yr RAC, daw’r gostyngiadau hyn oherwydd bod olew yn cael ei gyfnewid am draean ei bris o gymharu â deunaw mis yn ôl.

Am hynny, mae’n bosib y gall prisiau tanwydd ddisgyn yn fwy fyth.

Esboniodd Pete Williams, llefarydd ar ran yr RAC, fod tua 75% o’r hyn sy’n cael ei dalu wrth y pwmp yn mynd i’r Trysorlys mewn tollau a threthi. Mae’r gweddill yn mynd at gostau cynhyrchu, purfeydd, dosbarthu a manwerthwu.

“Mae hyn yn golygu fod yna gyfyngiad ar ba mor isel y gall pris petrol a disel ddisgyn, ond gall y prisiau hyn barhau i ddisgyn, ac nid yw pris o 90 ceiniog y litr wrth y pwmp ddim yn rhy uchelgeisiol,” meddai Pete Williams.

“Ar hyn o bryd, mae disel yn rhatach na phetrol,” ychwanegodd.