Mae Heddlu Gwent wedi dweud bod y pedwar person a gafodd eu harestio mewn cysylltiad â thân mewn ysgol gynradd yng Nghwmbrân ar Ddydd Calan, yn eu harddegau.
Fe ddechreuodd y tân yn Ysgol Coed Efa, Cwmbrân yn oriau mân 1 Ionawr. Fe gymrodd hi ddeg o griwiau achub i ddod a’r fflamau dan reolaeth, ac fe fuon nhw wrthi am oriau’n ceisio eu diffodd yn llwyr.
Cafodd y pedwar bachgen, tri yn 14 oed ac un 15 oed, i gyd o ardal Cwmbrân, eu harestio ar amheuaeth o gynnau tan yn fwriadol ar 1 Ionawr.
Mae’r pedwar wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth tra bod ymchwiliadau’r heddlu’n parhau.
Roedd disgwyl i’r ysgol ail-agor heddiw ond yn dilyn cyfarfod gyda staff yr ysgol, y gwasanaethau brys a swyddogion y cyngor fe benderfynwyd y bydd yr ysgol ynghau am weddill yr wythnos.
Mae apel i godi arian ar gyfer prynu offer sydd wedi cael ei ddifrodi eisoes wedi casglu mwy na £3,000.