Mae dyn yn ei 70au wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ffordd difrifol ar yr A525 yn Ninbych y bore ma.

Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng un car Nissan Micra du, yn agos i fwyty y Brookhouse Mill ar Ffordd Ruthun ychydig cyn 8yb ddydd Llun.

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi dweud y bydd ymchwiliad llawn yn cael ei gynnal yn dilyn y digwyddiad.

“Hoffem glywed gan unrhyw un a oedd yn yr ardal ar y pryd a allai fod wedi gweld y gwrthdrawiad neu unrhyw ddigwyddiad a arweiniodd ato,” meddai’r Rhingyll Tony Gatley.

Gallwch gysylltu ag Uned Plismona’r Ffyrdd ar 101 neu drwy Taclo’r Taclau ar 0800 555 111 a dyfynnu’r cyfeirnod, U001518 .