Mae pedwar o eithafwyr Iddewig wedi cael eu cyhuddo yn Israel o roi cartref Palestiniaid ar dân gan ladd plentyn a’i rieni.
Mae ymchwiliad ar y gweill ers y digwyddiad fis Gorffennaf diwethaf, a hwnnw i giang o eithafwyr sy’n gweithredu yn y West Bank.
Mae Amiram Ben-Uliel, 21, yn un o’r rhai sydd wedi’u cyhuddo, ynghyd â Yinon Reuveni, 20, a dau lanc arall.
Yn yr ymosodiad, cafodd bachgen 18 mis oed, Ali Dawabsheh, ei fam Riham a’i dad Saad eu lladd tra eu bod nhw’n cysgu yn eu cartref.
Cafodd yr ymosodiad ei feirniadu gan wleidyddion Israel, ac mae Prif Weinidog Israel, Benjamin Netanyahu wedi addo cosbi’r sawl sy’n gyfrifol.
Dywedodd yr awdurdodau fod yr ymosodiad yn ffordd o ddial am ladd dyn o Israel fis Mehefin diwethaf.
Dywedodd cyfreithiwr ar ran un o’r pedwar ei fod wedi cyfaddef ei ran yn y digwyddiad, a hynny dan bwysau gan yr heddlu.