Eryri wedi cael sylw arbennig
Mae Cymru’n wythfed ar restr Rough Guides o wledydd y dylid ymweld â nhw yn 2016.

Yn ôl yr arbenigwyr teithio, mae Cymru’n “un o’r meysydd chwarae naturiol hyfrytaf yn Ewrop”.

Maen nhw’n tynnu sylw at hanes, tirwedd a diwylliant Cymru, ddwy flynedd wedi iddyn nhw ganmol ei mynyddoedd, ei dyfrynnoedd, ei harfordir a’i chestyll.

Nepal sy’n ymddangos ar frig y rhestr.

Meddai’r arbenigwyr: “Ond mae’n amser cyffrous i Gymru – mae’r wlad yn ennill gwobrau am ei harddwch eithriadol a’i safleoedd hanesyddol sydd wedi’u gwarchod yn rhyfeddol.”

Roedd sylw arbennig hefyd i Eryri a Phenrhyn Gŵyr.

Mae 2016 yn Flwyddyn Antur yng Nghymru, fel rhan o gynllun newydd gan Lywodraeth Cymru i hybu twristiaeth.