Hepatitis C
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi rhybuddio bod hanner y bobol sy’n chwistrellu cyffuriau yng Nghymru mewn perygl o ddioddef o Hepatitis C.

Dywedodd y corff iechyd fod y broblem bellach yn un “sylweddol”.

Rhybuddiodd y corff fod cyffuriau cyfreithlon – neu ‘legal highs’ – wedi ychwanegu at y perygl.

Mae’r awdurdodau’n gwybod am 12,000 sy’n ymweld â chanolfannau cyfnewid nodwyddau yng Nghymru.

Dywedodd llefarydd ar ran Iechyd Cyhoeddus Cymru nad yw’r broblem yn cael ei rheoli’n ddigonol.

Gall triniaeth ar gyfer Hepatitis C gynnwys gwerth blwyddyn o frechlyn, ac fe all y salwch achosi iselder a blinder.

Yn 2014, daeth triniaeth newydd i’r amlwg oedd wedi gallu trin 90% o gleifion o fewn 12 wythnos.