Cafodd cannoedd o bobol eu gorfodi o’u cartrefi yn ne-ddwyrain Llundain nos Sadwrn wedi i nwy ollwng.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ardal Penge am 11 o’r gloch.
Bu’n rhaid sefydlu canolfannau dros dro ar gyfer hyd at 500 o bobol wrth i beirianwyr ddatrys y sefyllfa.
Roedd y digwyddiad yn cael ei drin fel un difrifol.
Cafodd nifer o ffyrdd eu cau, ond cafodd trigolion ddychwelyd i’w cartrefi erbyn 5 o’r gloch fore Sul.