Mae dyn oedd wedi mynd ar goll o gartref gofal yn Ynys Môn wedi cael ei ddarganfod yn ddiogel.

Fe fu Gwylwyr y Glannau a’r heddlu’n chwilio am Michael Lloyd wedi iddo fynd ar goll o gartref Springholme ym Mhentraeth am 10.30 fore Sadwrn.

Roedd pryderon am ei ddiogelwch gan ei fod yn dioddef o salwch.