Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am dywydd garw mewn rhannau o Gymru ddydd Sul.
Bydd y rhybudd ar gyfer canolbarth, de a gorllewin Cymru mewn grym tan 2 o’r gloch brynhawn Sul.
Mae disgwyl glaw a chawodydd trymion drwy gydol y bore.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi un rhybudd am lifogydd yn Nyffryn Dyfrdwy a phedwar rhybudd i fod yn ofalus rhag ofn bod llifogydd.
Mae rhybuddion eraill mewn grym ym Mlaenau Gwent, Caerffili, Caerdydd, Pen-y-bont ar Ogwr, Sir Gaerfyrddin, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Casnewydd, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro, Powys, Abertawe, Rhondda Cynon Taf, Torfaen a Bro Morgannwg.