Mae milwyr sy’n gefnogol i’r llywodraeth yn Yemen yn hawlio eu bod wedi lladd un o arweinwyr al-Qaida, ynghyd a thri o bobol eraill oedd yn cyd-deithio gydag o mewn confoi yn nhalaith Abyan ddydd Gwener.

Ali Abed al-Rab bin Talab, a oedd yn hefyd yn cael ei nabod fel Abu Anwar, oedd prif farnwr al-Qaida yn nhalaith fwya’ Yemen, Hadramawt. Fe oroesodd ymosodiad o’r awyr gan dron yn 2014.

Cyn yr ymosodiad diweddara’ hwn, roedd confoi Abu Anwar yn anelu am ddinas borthladd Aden yn ne’r wlad.