Gyda blwyddyn arall bron a bod ar ben, mae Golwg360 wedi bod yn cael cip nôl ar beth oedd y straeon rhyngwladol mwyaf poblogaidd eleni ymysg ein darllenwyr.
Dyw hi ddim yn syndod bod ymosodiadau brawychol ISIS, rhyfel cartref Syria a ffoaduriaid yn uchel ar y rhestr, a hynny yn ystod blwyddyn o benawdau trist iawn.
Ond mae pynciau eraill hefyd wedi bod yn denu sylw darllenwyr yn ystod 2015 – gan gynnwys rhai sydd yn fwy annisgwyl nag eraill.
Heb oedi ymhellach, dyma’r Deg Uchaf – gallwch hefyd weld ein Deg Uchaf o straeon Celfyddydau eleni, gyda rhagor i ddod cyn diwedd y flwyddyn.
1.Beirniadu Taoiseach Iwerddon am siarad Gwyddeleg
Stori ryngwladol fwyaf poblogaidd y flwyddyn oedd hon am ffrae yn ymwneud â defnydd o’r Wyddeleg.
Cafodd prif weinidog neu Taoiseach y Weriniaeth, Enda Kenny, ei feirniadu gan aelod o’i blaid ei hun ar ôl defnyddio’r iaith wrth ymateb i Aelod Seneddol oedd wedi gofyn cwestiwn iddo yn Saesneg.
Fe ysgogodd y ffrae dipyn o drafodaeth yn y sylwadau islaw’r stori, hefyd – prawf nad y Gymraeg yw’r unig iaith sy’n corddi’r dyfroedd weithiau!
2.Trasiedi UKIP a’r ffoaduriaid
Blog oedd hon gan Efa Lois, myfyrwraig o Brifysgol Lerpwl, yn trafod un o bynciau llosg mawr y flwyddyn.
Ymateb yn feirniadol wnaeth hi i sylwadau arweinydd UKIP Nigel Farage, gan ei gyhuddo o geisio defnyddio’r ffoaduriaid o ryfel cartref Syria fel arf propaganda.
Roedd hi hefyd yn feirniadol o anallu pobl i drin y ffoaduriaid fel bodau dynol oedd yn ceisio dianc rhag erchyllterau rhyfel yn hytrach na ‘mewnfudwyr’ fyddai’n ‘gost’ ar y wlad.
3.“Prifddinas godineb a phechod” ar frig rhestr targedau IS
Fore Sadwrn 14 Tachwedd roedd pawb yn deffro i ragor o newyddion am yr ymosodiadau marwol ym Mharis y noson gynt ble roedd 127 o bobl eisoes wedi cael eu lladd.
Hawliodd y Wladwriaeth Islamaidd (IS) gyfrifoldeb am yr ymosodiadau, gan ddweud eu bod wedi dewis eu targedau – oedd yn cynnwys neuadd gyngerdd a stadiwm pêl-droed – yn ofalus.
4.Charlie Hebdo yn gwerthu ei holl gopïau
Yn anffodus nid ymosodiadau mis Tachwedd oedd y tro cyntaf i eithafwyr Islamaidd dargedu Paris eleni.
Ym mis Ionawr cafodd 12 o bobl eu lladd mewn ymosodiad ar swyddfeydd y cylchgrawn dychanol Charlie Hebdo, gan ysgogi ymateb penderfynol oddi wrth y cyhoeddwyr wrth iddyn nhw roi llun o’r proffwyd Mohammed ar glawr eu rhifyn nesaf nhw.
Fe barhaodd y ffraeo dros y clawr dadleuol, gyda’r stori am grŵp Islamaidd yn bygwth mynd a Charlie Hebdo i’r llys hefyd yn denu cryn dipyn o sylw.
5.Dau wedi’u lladd a saith wedi’u harestio mewn cyrch ym Mharis
Nôl at ymosodiadau fis Tachwedd, a’r newyddion bod heddlu wedi cynnal cyrchoedd yn ardal Saint-Denis ym Mharis i geisio dod o hyd i’r rheiny fu’n gyfrifol.
Roedd yn rhan o ymgyrch ehangach i geisio dod o hyd i’r brawychwyr fu’n gyfrifol am gynllunio a chyflawni’r ymosodiadau, gyda’r chwilio yn mynd a’r awdurdodau i Frwsel yng Ngwlad Belg hefyd.
6.Y peth olaf maen nhw eisiau yw heddwch
Yng nghanol yr holl sylw ar IS a’r Dwyrain Canol roedd hi weithiau’n hawdd anghofio bod gwrthdaro hefyd wedi bod yn digwydd yn yr Wcrain.
Roedd Hefin Jones wrth law fodd bynnag i daro’i olwg graff ar bethau, a chwestiynu beth oedd gwir gymhellion gwledydd y gorllewin wrth ymyrryd yn y wlad.
7.Arlywydd newydd yr Ariannin yn tyngu llw
Draw a ni i Dde America ar gyfer y stori nesaf, wrth i Mauricio Macri gael ei benodi’n arlywydd newydd ar yr Ariannin gan olynu Cristina Fernandez Kirchner.
Roedd un o Aelodau Seneddol Cymru, y Ceidwadwr Alun Cairns, yn bresennol yn y seremoni dyngu llw fel cynrychiolydd llywodraeth Prydain yn ei rôl fel Dirprwy Ysgrifennydd Gwladol Cymru.
8.Gyrrwr wedi yfed 36 peint cyn damwain
Nid pob stori sydd am ddigwyddiadau tramor gwleidyddol o bwys, wrth gwrs – roedd hon, am yrrwr o Utah yn yr UDA oedd wedi cael ambell un yn ormod, hefyd yn boblogaidd gyda’r darllenwyr eleni.
9.Damwain awyren wedi achosin fwriadol gan y peilot
Yn anffodus roedd damweiniau awyrennau yn y newyddion eto eleni, y tro hwn wedi i awyren Germanwings daro ochr mynydd yn yr Alpau yn Ffrainc.
Yn ddiweddarach fe ddaeth i’r fei bod y peilot, Andreas Lubitz, wedi achosi’r ddamwain yn fwriadol ar ôl cloi ei gyd-beilot allan o’r caban.
10.Enwi mwnci ar ôl babi brenhinol
Un arall o’r straeon ysgafn prin i gyrraedd y deg uchaf, fe ddenodd sw yn Siapan tipyn o sylw ar ôl enwi un o’u mwncïod newydd ar ôl y newydd-anedig Dywysoges Charlotte, merch fach Wil