Mae gyrwyr gyda chwmni Trenau Arriva Cymru wedi dechrau gwaharddiad ar weithio oriau ychwanegol cyn cynnal streic yn y flwyddyn newydd ynglŷn â thâl ac amodau.
Mae disgwyl i aelodau o undeb Aslef gynnal streic ar ddydd Llun, 4 Ionawr – y diwrnod cyntaf yn ôl i nifer o weithwyr wedi gwyliau’r Nadolig.
Dywedodd yr undeb bod y gwaharddiad ar weithio oriau ychwanegol eisoes yn cael effaith gan honni bod Trenau Arriva Cymru yn dibynnu ar yrwyr i weithio oriau ychwanegol.
Ychwanegodd yr undeb eu bod yn barod i drafod, gan honni nad oedd y cwmni yn ymddangos fel eu bod ar frys i ddatrys yr anghydfod.