Ankara yn Nhwrci
Mae’r heddlu yn Nhwrci wedi arestio dau berson, sy’n cael eu hamau o fod yn filwriaethwyr y Wladwriaeth Islamaidd (IS), y credir oedd yn cynllwynio ymosodiadau yn ystod dathliadau Nos Galan yn Ankara.
Yn ôl yr asiantaeth newyddion Anadolu Agency, cafodd y ddau, sy’n dod o Dwrci, eu harestio yn dilyn cyrch ar dŷ yn Ankara.
Yn ôl yr asiantaeth daeth yr heddlu o hyd i wregysau gyda ffrwydron yn y tŷ.
Y gred yw eu bod yn cynllwynio i ffrwydro’r gwregysau mewn dau safle ynghanol Ankara yn ystod y dathliadau.
Maen nhw’n cael eu holi gan heddlu gwrth-frawychiaeth.
Ym mis Hydref bu farw mwy na 100 o bobl ar ôl i ddau hunan-fomiwr gynnal ymosodiad yn ystod rali heddwch yn Ankara.