Rita King
Mae pensiynwr wedi ymddangos yn y llys ar gyhuddiad o saethu dynes yn farw mewn cartref gofal.

Mae Ronald King, 86, wedi’i gyhuddo o lofruddio Rita King, 81, yng nghartref gofal De La Mer House yn Walton-on-the-Naze.

Fe ymddangosodd King, o Walton-on-the-Naze, gerbron Llys Ynadon  Chelmsford ddydd Mercher.

Cafodd ei gadw yn y ddalfa a bydd yn ymddangos gerbron Llys y Goron Chelmsford bore fory.

Credir mai ef yw gwr Rita King.

Dywedodd Heddlu Essex bod gwn wedi cael ei ddarganfod ar y safle.