Roedd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi ymateb i 70.8% o alwadau coch o fewn wyth munud, yn ôl ffigurau newydd sy’n cael eu cyhoeddi heddiw.
Y disgwyl yw y dylai o leiaf 65% o’r ymatebion i argyfyngau lle mae bywydau mewn mwyaf o berygl – sef galwadau coch – gyrraedd o fewn wyth munud.
Fe gymerodd pum munud a 30 eiliad ar gyfartaledd i’r gwasanaeth ambiwlans ymateb i’r cleifion mwyaf difrifol wael ym mis Tachwedd, yn ôl y ffigurau.
Dyma ail fis y cynllun peilot, blwyddyn o hyd, sy’n rhoi prawf ar y newidiadau a wnaed i’r ffordd y mae’r gwasanaeth yn ymateb i gleifion.
1,223 o alwadau brys bob dydd
Mae’r ffigurau newydd ar gyfer mis Tachwedd yn dangos hefyd bod mwy na thraean y cleifion ‘coch’ wedi derbyn ymateb o fewn pedwar munud yn unig; a chafwyd 1,223 o alwadau brys bob dydd ar gyfartaledd.
Mae’r ffigurau hefyd yn dangos bod ardaloedd pob bwrdd iechyd, ac eithrio ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi llwyddo i gyflawni o leiaf 70% o fewn wyth munud.
‘Cyflawni’r targed’
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd, Vaughan Gething: “Rwy’n falch o weld bod Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn cyflawni’r targed newydd o ran amser ymateb, gan helpu i sicrhau canlyniadau ardderchog i gleifion wrth i’r cynllun peilot fynd rhagddo.
“Mae’r ffigurau hyn yn dangos y pwysau sydd ar y clinigwyr ambiwlans, y canolfannau cyswllt clinigol a’r ymatebwyr cyntaf gwirfoddol sy’n gweithio’n ddiflino i achub pobl y mae eu bywydau mewn perygl.
“Mae’r system newydd hon yn helpu i sicrhau bod pobl â chyflwr sy’n peryglu eu bywydau’n uniongyrchol yn derbyn ymateb o fewn wyth munud – mae hyn yn helpu pobl i gael y gofal cywir yn y lle cywir ar yr amser cywir.”
‘Lle i wella’
Ychwanegodd Vaughan Gething: “Rwy’n cydnabod bod lle i wella o hyd mewn rhai meysydd ac rwy’n disgwyl i’r gwasanaeth adeiladu ar y canlyniadau cynnar hyn a dal ati i wella.
“Trwy hyn bydd modd gwneud yn siŵr bod y bobl hynny sydd angen sgiliau achub bywyd y clinigwyr ambiwlans yn gallu elwa arnynt mor gyflym ag y bo modd a chael y canlyniadau gorau posibl.”