Bethany Jones
Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth i ddod o hyd i ferch 15 oed sydd ar goll o’i chartref yn Abertridwr yng Nghaerffili.

Nid yw Bethany Jones wedi cael ei gweld ers prynhawn dydd Llun, 28 Rhagfyr.

Dywed yr heddlu ei bod o faint tenau, yn groenwyn, tua 5’ 4 o daldra gyda gwallt du a llygaid brown. Roedd yn gwisgo cot hir ddu, legins a trainers Nike du.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio’r heddlu ar 101 a nodi’r cyfeirnod 397 29/12/15.