Swyddogion y Cenhedloedd Unedig yng Ngweriniaeth Canolbarth Affrica, Llun: Human Rights Watch
Mae miloedd o bobl yng Ngweriniaeth Canolbarth Affrica wedi dechrau bwrw pleidlais gyda’r gobaith y bydd arlywydd newydd yn arwain at fwy o sefydlogrwydd ar ôl blynyddoedd o drais.

Mae’r pleidleiswyr yn dewis arlywydd o blith 30 o ymgeiswyr i gymryd lle’r arweinydd dros dro Catherine Samba-Panza, a gafodd ei phenodi ym mis Ionawr 2014. Mae’r bleidlais wedi cael ei gohirio sawl tro.

Mae disgwyl i fwy na 1.8 miliwn o bobl fwrw pleidlais mewn mwy na 500 o orsafoedd pleidleisio.

Mae swyddogion y Cenhedloedd Unedig a phlismyn wedi cael eu hanfon i’r  gorsafoedd pleidleisio yn dilyn trais yn ystod refferendwm ar 13 Rhagfyr.

Mae trafferthion wedi bod yng Ngweriniaeth Canolbarth Affrica ers mis Mawrth 2013 ar ôl grwpiau o wrthryfelwyr Mwslimaidd yn bennaf ddisodli’r arlywydd.