Bydd cyffuriau newydd i drin canser y coluddyn a’r rectwm a ffibrosis systig ar gael yn gyffredinol drwy Wasanaeth Iechyd Cymru, cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford.

Bydd Cetuximab ar gael fel opsiwn ar gyfer triniaeth gyntaf i gleifion â mathau penodol o ganser y coluddyn a’r rectwm, yn dilyn argymhelliad gan Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru (AWMSG).

Mae wedi’i gymeradwyo i’w ddefnyddio gyda thriniaethau eraill.

Nid oedd Cetuximab ar gael yn gyffredinol yng Nghymru yn dilyn canllawiau a gyhoeddwyd gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) yn 2009.

Ond mae tystiolaeth gynyddol sy’n dangos manteision ar gyfer mathau penodol o ganser y coluddyn a’r rectwm.

Ffibrosis systig

Mae’r Gweinidog hefyd wedi cymeradwyo argymhelliad AWMSG y dylai Ivacaftor sy’n cael ei ddefnyddio i drin ffibrosis systig, fod ar gael i ystod ehangach o unigolion sy’n dioddef o’r cyflwr.

Ivacaftor yw’r feddyginiaeth gyntaf i drin achos sylfaenol ffibrosis systig – gan mai lleihau symptomau’r cyflwr yn unig y mae triniaethau eraill.

Ffibrosis systig yw’r clefyd etifeddol mwyaf cyffredin sy’n cyfyngu ar fywyd yn y DU, gan effeithio tua un o bob 2,500 o fabis.

‘Dau argymhelliad cadarnhaol’

Dywedodd yr Athro Drakeford: “Yng Nghymru, mae’r holl feddyginiaethau sydd wedi’u cymeradwyo gan NICE neu Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru ar gael yn gyffredinol yn y gwasanaeth iechyd.

“Yn dilyn y ddau argymhelliad cadarnhaol diweddar hyn gan y Grŵp, mae’n bleser gen i gyhoeddi fy mod wedi cymeradwyo defnyddio cetuximab fel triniaeth ar gyfer canser y colon a’r rhefr ac ivacaftor – Kalydeco – i drin ffibrosis systig drwy’r gwasanaeth iechyd.”