Oliver Letwin, cyfarwyddwr polisi David Cameron
Mae cyfarwyddwr polisi David Cameron, Oliver Letwin, wedi ymddiheuro’n “ddiamod” am sylwadau “hiliol” a wnaeth yn sgil terfysgoedd Broadwater Farm yn 1985.

Mae dogfennau archif y Cabinet sydd wedi cael eu cyhoeddi yn dangos bod Oliver Letwin, a oedd yn ymgynghorydd yn uned bolisi Llywodraeth Margaret Thatcher ar y pryd, wedi dweud mai “agweddau anfoesol” oedd ar fai am y terfysgoedd yn yr ardal lle’r oedd cyfran uchel o bobl ddu yn byw.

Mewn llythyr at y Prif Weinidog roedd yn feirniadol o honiadau mai tlodi a diweithdra oedd ar fai am y trafferthion yno gan ddweud bod cymunedau gwyn wedi dioddef amodau o’r fath ers degawdau heb gynnal terfysgoedd.

Sylwadau ‘wedi’u geirio’n wael’

Mewn datganiad heddiw, dywedodd Oliver Letwin, sydd bellach yn weinidog yn Swyddfa’r Cabinet, ei fod “eisiau ei gwneud yn glir bod rhai rhannau o’r llythyr preifat nes i ysgrifennu 30 mlynedd yn ôl wedi cael eu geirio’n wael ac yn anghywir.

“Rwy’n ymddiheuro’n ddiamod am unrhyw loes mae’r sylwadau yma wedi’u hachosi a hoffwn ei gwneud yn glir nad dyna oedd y bwriad.”

Mae ei sylwadau wedi cael eu beirniadu’n chwyrn gan ddirprwy arweinydd y Blaid Lafur Tom Watson sy’n dweud bod sylwadau Oliver Letwin yn “dystiolaeth o agwedd anwybodol a hiliol.”

Cafodd y plismon Keith Blakelock ei drywanu i farwolaeth yn ystod y terfysgoedd yn Broadwater Farm ym 1985 gyda thrafferthion yn ardal  Handsworth yn Birmingham a Brixton yn ne Llundain.