Mae heddlu yn ninas Thessaloniki yng ngwlad Groeg yn dweud eu bod wedi arestio dyn sydd ar ffo o wledydd Prydain am werthu a dosbarthu’r cyffur cocen.

Mewn datganiad heddiw, mae’r heddlu yno’n dweud fod Simon Dutton, 39 oed, wedi’r arestio yn y ddinas ar warant Ewropeaidd. Fe fydd yn cael ei gadw yn y ddalfa nes bod llys Groegaiss yn penderfynu ei estraddodi ai peidio.

Mae Simon Dutton wedi bod ar herw wedi iddo gael ei ddal yn smyglo gwerth £1.6m o gyffuriau rhwng Sbaen a Lloegr yn 2oo9.