Istanbul
Mae grwp o wrthryfelwyr Cwrdaidd wedi hawlio cyfrifoldeb am ymosodiad ar un o feysydd awyr Istanbul, Twrci.

Fe gafodd glanhawr ei ladd yn y digwyddiad, ac mae’r grwp sy’n galw ei hun y ‘Kurdistan Freedom Falcons’ yn addo gweithredu eto.

Fe hawliodd y grwp gyfrifoldeb am yr ymosodiad ar Faes Awyr Rhyngwladol Sabiha Gokcen ar Ragfyr 23, ar ei wefan, gan ddweud eu bod wedi mynd yno gyda gynnau a bomiau mortar er mwyn talu’n ôl am y modd y mae llywodraeth Twrci’n ymosod yn filwrol ar fudiad y PKK.

Yr wythnos ddiwetha’, fe gyhoeddodd lluoedd diogelwr Twrci eu bod yn lawnsio ymgyrch fawr yn erbyn y PKK yn ardaloedd Cwraidd y wlad. Fe gafodd 180 o wrthryfelwyr eu lladd.