Mae Heddlu Gogledd Cymru’n annog trigolion Caernarfon i riportio pobol sy’n ymddwyn yn amheus, wedi dau ladrad yn yr ardal rhwng dydd Sul, Rhagfyr 20, a dydd Iau, Rhagfyr 24.

Ymysg yr eitemau a gafodd eu dwyn yn ystod y digwyddiadau hyn, y mae dau fag llaw, arian a ffôn symudol, ynghyd â goriadau tai.

“Yn y ddau ddigwyddiad hwn, mae lladron wedi cymryd siawns a manteisio ar y ffaith bod drysau ffrynt y tai ddim wedi cloi,” meddai llefarydd ar ran yr uned CID yng Nghaernarfon.

Fe ddigwyddodd y lladrad cynta’ rhwng 10 o’r gloch ar fore Sul, Rhagfyr 20, ac 8 o’r gloch y bore dilynol, yn ardal Twthill. Fe ddigwyddodd yr ail ladrad ar Noswyl Nadolig yn Stryd Marcus.

“Rydan ni isio gwneud pethau mor anodd â phosib i ladron,” meddai’r llefarydd wedyn. “Clowch eich ffenestri a’ch drysau, a pheidiwch â gadael eitemau gwerthfawr yn y golwg, yn y ffenest, nac yn agos i ddrysau patio. Os oes gynnoch chi larwm, defnyddiwch o.”