Darren Inder wrthi'n siopa (Llun: Heddlu De Cymru)
Mae lleidr a fu’n siopa gan ddefnyddio cardiau credyd yr oedd wedi’u dwyn o dai yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr, wedi’i garcharu am gyfnod o bedair blynedd a hanner.

Fe gafodd Darren Inder, 36, o Gastell Nedd, ei ddal wedi i’r cardiau yr oedd wedi’u defnyddio ddatgelu lle’n union yr oedd wedi bod yn siopa, a be’n union yr oedd wedi’i brynu.

Gyda’r wybodaeth hon, fe fu swyddogion Heddlu De Cymru yn edrych ar luniau teledu cylch cyfyng o’r siopau, a gweld Darren Inder yn ymddangos dro ar ôl tro.

Pan aeth yr heddlu i gartre’ Darren Inder yng Nghastell Nedd i’w arestio, fe ddringon nhw i’w atig a gweld yr hyn ddisgrifiwyd fel “ogof Aladdin” o anrhegion moethus fel persawr a dillad oedd yn werth miloedd o bunnoedd.