Mae bachgen 7 mlwydd oed wedi’i ladd mewn gwrthdrawiad rhwng tri char yng Ngogledd Iwerddon.

Bu farw Jackson Turner, disgybl ysgol gynradd o Carrickfergus, County Antrim rai oriau wedi’r ddamwain ffordd lle cafodd merch 4 oed hefyd ei hanafu.

Fe ddigwyddodd y ddamwain, rhwng dau gar Nissan ac un cerbyd Citroën, yn Newtownabbey tua 6.30yh nos Sadwrn, ac fe gafodd cyfanswm o 7 o bobol eu hanafu.

Mae gyrrwr y car yr oedd Jackson Turner yn teithio ynddo, yn parhau’n ddifrifol wael yn yr ysbyty.