Mae heddlu’r West Midlands yn chwilio am grwp o ddynion a ymosododd ar swyddog diogelwch clwb nos yn ystod oriau mân Dydd Nadolig – a hynny am iddo wrthod mynediad iddyn nhw.

Fe ddioddefodd y swyddog ymosodiad gyda llafn machete, ac fe gafodd gwn ei roi wrth ei ben.

Roedd hyn wedi i grwp o ddynion gael eu rhwystro rhag mynd i mewn i glwb nos Rock Zombie yn Dudley tua 1.20yb, a hynny am eu bod nhw i weld wedi meddwi gormod ac yn ymddwyn yn ymosodol.

Y gred ydi fod tri o’r dynion wedi dychwelyd awr yn ddiweddarach mewn car Vauxhall Astra lliw arian, gan redeg ar ôl y swyddog diogelwch gyda gwn, a thanio’r arf. Roedd gan aelod arall o’r grwp lafn mawr, ac fe darodd y swyddog diogelwch ddwywaith gyda’r machete.

Chafodd y swyddog diogelwch 25 oed ddim ei anafu’n ddifrifol yn y digwyddiad, ond fe gafodd ei ddychryn yn arw.