Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw ar bobol yng Nghymru i gefnogi boicot economaidd a diwylliannol o wladwriaeth Israel yn sgil y rhyfel ym Mhalesteina a Libanus, gan gymharu brwydr hawliau Palestiniaid â’r frwydr dros hawliau’r Gymraeg.
Yng nghyfarfod blynyddol Senedd y Gymdeithas ddechrau’r mis, fe wnaeth y Gymdeithas ddatgan eu bod nhw am bwyso ar bobol Cymru i ymuno â’r ymgyrch Boicot, Dihatrad, Sancsiynau rhyngwladol.
Roedd y Gymdeithas wedi ymwrwymo i’r boicot eu hunain eisoes.
Fis Rhagfyr y llynedd, fe addawodd y grŵp na fydden nhw’n prynu unrhyw gynnyrch na gwasanaethau gan gwmnïau o Israel, neu gan gwmnïau sy’n cefnogi gwladychiad tiroedd Palesteina.
Mae’r Gymdeithas yn cymharu’r ymgyrch ag ymdrechion gwrth-aparteid yr 1980au.
‘Cyfrifoldeb ar Gymru’
Cafodd y datganiad newydd, gafodd ei gynnig gan aelodau Rhanbarth Ceredigion y mudiad, ei gyflwyno gerbron Cyfarfod Cyffredinol y Gymdeithas ddechrau mis Hydref.
Roedd yn collfarni’r holl drais gan wladwriaeth Israel a mudiad Hamas, yn trafod llofruddiaeth miloedd o Balestiniaid gan wleidyddion Israel yn nhermau ‘hil-laddiad’ a ‘charthu ethnig,’ ac yn cyfeirio at y gyfundrefn ym Mhalesteina fel ‘aparteid’.
Roedd hefyd yn nodi bod “cyfrifoldeb ar Gymru i gefnogi dulliau di-drais o atal Llywodraeth Israel rhag cyflawni troseddau rhyfel a chynnal aparteid ym Mhalesteina”.
Yn ogystal, fe wnaeth y Gymdeithas gydnabod galwadau am un wladwriaeth gyfun a chwbl ddemocrataidd Israel-Balesteina fel datrysiad hirdymor i’r trais.
Boicot, Dihatrad, Sancsiynau
Yn rhan o’u hymateb ymarferol, cytunodd y grŵp i bwyso ar bobol, cyrff ac awdurdodau Cymru i ymuno â’r ymgyrch Boicot, Dihatrad, Sancisynau.
Cafodd yr ymgyrch hon ei sefydlu gan gymdeithas sifil Palesteinaidd yn 2005, gyda’r nod o ynysu Israel nes bod llywodraeth y wlad yn cydymffurfio â chyfraith ryngwladol.
Amcan Cymdeithas yr Iaith ydy galw ar bobol Cymru, ei chynrychiolwyr rhyngwladol, a phob cymdeithas chwaraeon a diwylliannol cenedlaethol yng Nghymru i foicotio Israel.
Roedd datganiad y Gymdeithas yn gofyn i Lywodraeth Cymru a chynghorau lleol beidio â buddsoddi mewn cwmnïau sy’n cefnogi gwladwriaeth Israel, gan gynnwys buddsoddiadau sy’n rhan o’u cronfeydd pensiwn.
Fe alwodd y grŵp hefyd am ddiarddel Llysgennad Israel i Brydain, ac am waharddiad ar werthiant arfau i Israel gan Lywodraeth Prydain.
Gogwydd ryngwladol
“Cymdeithas y bobol yw Cymdeithas yr Iaith,” meddai Owain Meirion, Swyddog Cyfathrebu Cymdeithas yr Iaith, wrth golwg360.
“Rydyn ni’n gweithredu’n ddi-drais dros y Gymraeg a chymunedau Cymru, fel rhan o chwyldro rhyngwladol dros hawliau a rhyddid.
“Mae gogwydd ryngwladol i bob dim mae’r Gymdeithas yn ei wneud; mae hynny wedi bodoli ers y cychwyn un.
“Roedd ffurfio Cymdeithas yr Iaith yn rhan o’r chwyldro rhyngwladol ddigwyddodd yn y 1960au, ar y cyd â phrotestiadau gwrth-Fietnam ac hawliau sifil yn America.
“Mae ennill hawliau i bobol ym Mhalesteina’n rhan o’r un frwydr dros gyfiawnder cymdeithasol ag y mae’r frwydr dros hawliau i’r Gymraeg.”