Mae 18 o weithwyr yn sownd dan ddaear, wedi tirlithriad mewn chwarel yn China.

Fe gafodd 11 o’r 29 o weithwyr eu hachub pan ddymchwelodd y gwaith yn nhalaith Shandong ar Ddydd Nadolig.

Mae’r 18 o weithwyr sy’n weddill yn gaeth dan ddaear, ac mae’r awdurdodau’n dweud na ellir eu hachub ar hyn o bryd.

Fe gafodd un gweithiwr, oedd â’i goes yn sownd o dan garreg fawr, ei achub o’r siafft ben bore heddiw.