Mae tair o brif ffyrdd gogledd Cymru wedi cau fore heddiw, a hynny wedi noson o law trwm sydd wedi achosi llifogydd.

* Mae’r A55 wedi cau i’r ddau gyfeiriad rhwng cyffordd 12 (Tal-y-bont) a chyffordd 15 (Llanfairfechan);

* Mae priffordd yr A470 wedi cau i gyfeiriad y gorllewin ym mhentre’ Betws-y-coed;

* Mae’r A5 ar gau i’r ddau gyfeiriad rhwng Bethesda a Chapel Curig.

Mae’r awdurdodau’n rhybuddio’r cyhoedd i beidio â theithio heddiw os nad oes raid gwneud. Os oes raid mentro allan yn y car, mae angen cymryd gofal mawr, gan fod pyllau dyfnion hefyd ar ffyrdd rhwng Bangor a Chaernarfon; ym mhentre’ Dolydd ger Y Groeslon; yn ogystal ag yn ardal Pwllheli, Llanberog ac Abersoch.