Mae Delyth Jewell, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd, wedi cwestiynu faint yn rhagor o blant fydd yn cael eu saethu’n farw mewn ysgolion cyn i Lywodraeth yr Unol Daleithiau weithredu ar ddryllau.

Daw ei sylwadau ar ôl i 19 o blant a dau oedolyn gael eu lladd gan saethwr 18 oed yn Robb Elementary School yn nhalaith Tecsas, a gafodd ei ladd wedyn gan swyddog diogelwch.

Roedd gan y saethwr ddryll lled-awtomatig a nifer sylweddol o fwledi, ac mae lle i gredu ei fod e wedi saethu ei fam-gu cyn targedu’r ysgol.

Mae wedi’i enwi mewn adroddiadau lleol fel Salvador Ramos, ac mae’r adroddiadau hynny’n dweud ei fod e wedi gollwng cerbyd cyn anelu am yr ysgol.

Mae dau swyddog ffiniau hefyd wedi cael eu hanafu, ond maen nhw mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty erbyn hyn.

Mae’r cyfryngau wedi enwi dau o’r plant fu farw, sef Xavier Lopez ac Amerie Jo Garza, y ddau ohonyn nhw’n ddeg oed, a’r athrawes Eva Mireles.

Mae dynes 66 oed a merch ddeg oed mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.

Mae’r digwyddiad yn siŵr o godi cwestiynau am yr hawl i gadw dryllau yn yr Unol Daleithiau, gydag ymgyrchwyr yn parhau i alw am waharddiad.

Wrth ymateb i’r digwyddiad, mae Delyth Jewell, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ddwyrain De Cymru, wedi beirniadu gwleidyddion yn yr Unol Daleithiau.

“Faint yn rhagor o blant y mae angen iddyn nhw gael eu saethu’n farw fel hyn cyn bod gwleidyddion yn yr Unol Daleithiau’n penderfynu bod achub bywydau’n bwysicach na derbyn arian gwaed ymgyrchwyr tros ddryllau?” meddai ar Twitter.

“Cyhyd ag y bydd modd prynu bwledi fel nwyddau mewn eiliau siopa, bydd hyn yn parhau i ddigwydd.”