Wrth i Frenhines Lloegr ddathlu 70 mlynedd ar yr orsedd dros benwythnos Mehefin 2-5, fydd dim modd i bobol yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda fynd i ganolfannau brechu Covid-19.
Mae’r bwrdd iechyd wedi cyhoeddi eu bod nhw’n cau eu canolfannau drwy gydol y penwythnos gŵyl banc, o ddydd Iau, Mehefin 2 i ddydd Sul Mehefin 5.
Bydd y ganolfan yn Llyfrgell Thomas Parry yn Aberystwyth hefyd ynghau ddydd Llun (Mehefin 6) a dydd Mawrth (Mehefin 7).
Bydd modd gwneud apwyntiadau neu alw heibio ym mhob canolfan frechu arall ddydd Llun (Mehefin 6), ac eithrio’r ganolfan yn Ninbych-y-pysgod, sydd ond ar agor o ddydd Gwener i ddydd Sul.
‘Cyfle i fwynhau gŵyl y banc’
“Dyma’r cyfnod hiraf y mae ein canolfannau brechu wedi cau yn ystod y rhaglen, a gobeithiwn y bydd ein staff a’n gwirfoddolwyr yn cael y cyfle i fwynhau gŵyl y banc,” meddai Bethan Lewis, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Dros Dro Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
“Bydd nifer fach o staff yn parhau i weithio i gefnogi’r gwaith parhaus o frechu cleifion sy’n gaeth i’r cartref.”