Mae Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi awgrymu nad yw Llywodraeth Cymru “yn barod am her” yr argyfwng costau byw.
Wrth siarad â golwg360, mae’n dweud bod yr £150 mae Llywodraeth Cymru wedi ei ddarparu i aelwydydd band A i D treth cyngor yn “adlewyrchiad o’r hyn sydd wedi cael ei gyhoeddi gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig”.
“Wrth gwrs mae’r £150 mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i aelwydydd yn deillio o arian y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi ei ddarparu,” meddai.
“Felly dydy hwnna ddim yn arian Llywodraeth Cymru, yn y bôn does dim y fath beth ag arian Llywodraeth Cymru, mae popeth yn deillio o arian trethdalwyr y Deyrnas Unedig.
“Cyfanswm cyfraniad treth y Deyrnas Unedig yw’r hyn rydan ni’n drafod fan hyn.
“Mae’r cyfraniad yna (gan Lywodraeth Cymru) yn adlewyrchiad o’r hyn sydd wedi cael ei gyhoeddi gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.
“Mewn gwirionedd, yr oll dw i wedi glywed gan Lywodraeth Cymru yw eu bod nhw am wario £60m ar gynyddu maint y Senedd, a chyhoeddiad diddorol y dylai pawb o dan 16 gael mynediad i offeryn cerddorol.
“Mae’r rhain yn bethau da, ond os wyt ti’n cael trafferth yn talu dy filiau dw i ddim yn siŵr sut mae hynny yn helpu.
“Rydyn ni yn San Steffan yn cydnabod mai hybu swyddi a ffyniant sy’n mynd i ddatrys yr argyfwng costau byw, yn hytrach na gwario ein ffordd allan ohono.
“Mae gan Lywodraeth Cymru amser o hyd i gyflawni hynny, ond fe gawn ni weld os ydyn nhw’n barod am yr her.”