Darren Price sydd wedi’i enwi’n arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin, fel rhan o’r gynghrair rhwng Plaid Cymru a’r Grŵp Annibynnol.
Fe hefyd fydd Cadeirydd y Cabinet ar ôl i Blaid Cymru sicrhau mwyafrif y pleidleisiau, gyda 38 sedd allan o 75, yn yr Etholiadau Llywodraeth Leol yn gynharach y mis hwn.
Mae’n aelod o Grŵp Plaid Cymru, ac wedi gwasanaethu Cyngor Sir Caerfyrddin fel cynghorydd ar gyfer ward Gors-las ers 2012.
Yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol y cyngor heddiw, daeth cadarnhad o’i benodiad e â’i dîm Cabinet newydd, sy’n cynnwys deg aelod o’r Cyngor, gan gynnwys arweinydd y Cyngor.
Mae’r Cabinet yn gyfrifol am fusnes cyffredinol y cyngor ac mae’n cyfarfod bob pythefnos i wneud penderfyniadau ac argymhellion i’r Cyngor Llawn.
Gall hefyd wneud penderfyniadau’n unigol ar faterion penodol.
Mae pum aelod o’r weinyddiaeth flaenorol wedi cadw eu seddi gyda phum aelod newydd wedi’u cyhoeddi heddiw.
- Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Gartrefi – Y Cynghorydd Linda Evans
- Aelod Cabinet dros Drefniadaeth a’r Gweithlu – Y Cynghorydd Philip Hughes
- Aelod Cabinet dros Adnoddau – Y Cynghorydd Alun Lenny
- Aelod Cabinet dros Faterion Gwledig a Pholisi Cynllunio – Y Cynghorydd Ann Davies
- Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd – Y Cynghorydd Aled Vaughan Owen
- Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith – Y Cynghorydd Edward Thomas
- Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth – Y Cynghorydd Gareth John
- Aelod Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg – Y Cynghorydd Glynog Davies
- Aelod Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Y Cynghorydd Jane Tremlett
‘Cydweithio er lles pawb’
“Dros y blynyddoedd nesaf rwy’n awyddus iawn i ymgysylltu’n rheolaidd ag aelodau o ochr arall y siambr, er mwyn trafod eu syniadau a’u pryderon, ac er mwyn cydweithio er lles pawb,” meddai Darren Price.
“Fel Gweinyddiaeth rydym am fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd a’r argyfwng costau byw, adfywio economi a chanol trefi ein sir, darparu tai o ansawdd da, codi safonau addysgol, sicrhau cymorth gofal cymdeithasol i’r rhai mwyaf agored i niwed, gwella trafnidiaeth gyhoeddus, gweld strydoedd glanach a darparu gwasanaethau cyngor effeithiol o safon.
“Mae’r cyngor eisoes wedi bod yn gwneud llawer iawn o waith yn y meysydd hyn a’r dasg i ni nawr yw adeiladu ar y sylfeini cadarn hynny a gwireddu ein huchelgeisiau ar gyfer Sir Gâr.”
Rôl y Cyngor a’r Cabinet
Mae grŵp gwahanol o gynghorwyr yn craffu ar benderfyniadau’r Cabinet, ac maen nhw’n cyfarfod fel Pwyllgorau Craffu i wirio a monitro’r hyn mae’r Cabinet yn ei wneud.
Mae gan y cyhoedd rôl hefyd o ran craffu ar y Cabinet – mae gan unrhyw un sy’n byw neu’n berchen ar fusnes yn y sir, neu sy’n cael ei gyflogi gan y cyngor, yr hawl i ofyn cwestiwn i aelodau’r Cabinet fel rhan o gyfarfodydd cyhoeddus a gall unrhyw un wylio cyfarfodydd y Cabinet yn fyw ar-lein.
Mae’r Cyngor yn cynnwys 75 o Gynghorwyr etholedig sy’n cynrychioli 51 o Wardiau Etholiadol o ystod o grwpiau gwleidyddol. Fel arfer maen nhw’n cwrdd fel Cyngor yn fisol.
Maen nhw’n cael eu hethol gan y cyhoedd i leisio barn y cyhoedd wrth wneud penderfyniadau am wasanaethau a materion sy’n effeithio ar y gymuned leol.
Mae ganddyn nhw nifer o rolau a chyfrifoldebau ac mae angen iddyn nhw gydbwyso anghenion a buddiannau eu cymuned, eu plaid wleidyddol neu eu grŵp ag anghenion trigolion y sir gyfan.
Bydd cyfarfodydd y Pwyllgorau Craffu yn ailddechrau ym mis Medi er mwyn rhoi cyfle i’r Cabinet newydd gytuno ar ei flaenraglen waith.