Mae un o Aelodau Plaid Cymru o’r Senedd yn galw am “weithredu brys” i sicrhau cydraddoldeb i blant ag anableddau yn y sector gofal.
Daw galwadau Sioned Williams, Aelod Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru, ar ôl i etholwr godi pryderon am ddiffyg cymorth digonol i rieni plant ag anableddau allu talu am gostau gofal plant ychwanegol maen nhw’n aml yn gorfod eu talu.
Clywodd Sioned Williams gan etholwr a ddywedodd fod meithrinfa wedi gofyn iddi dalu bron i £300 y diwrnod i’w dau blentyn awtistig anghenion uchel allu mynychu lleoliad gofal plant yn ystod gwyliau’r ysgol.
Roedd hynny dair gwaith yn uwch na’r gyfradd safonol mae’r feithrinfa yn ei chodi, gan fod angen goruchwyliaeth uni-un ar y ddau blentyn, meddai.
Dywedodd etholwr arall wrth Sioned Williams mai rhiant neu ofalwyr sydd â’r cyfrifoldeb o ddatrys y broblem.
“Mae pobol yn rhoi’r ffidil yn y to – maen nhw’n cymryd taw eu cyfrifoldeb nhw ydyw i ddatrys y broblem,” meddai’r etholwr.
“Nhw yw’r ‘broblem’ a’u plentyn yw’r ‘broblem’. Rwyf wedi siarad â mwy a mwy o ofalwyr-rieni sy’n ceisio cadw eu gyrfaoedd, ond mae’r rhan fwyaf yn rhoi’r gorau iddi.”
‘Gwarthus’
Wrth godi’r mater yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog ddoe (dydd Mawrth, Mai 24), dywedodd Sioned Williams fod “rhieni plant anabl yn ei chael hi’n anodd cael mynediad at ofal plant addas oherwydd diffyg lleoliadau arbenigol, a chostau sy’n aml yn anfforddiadwy”.
“Mae’n amlwg ei bod yn anodd iawn dod o hyd i’r wybodaeth am unrhyw gymorth sydd ar gael ac mae grwpiau anableddau dysgu yn dweud bod diffyg gofal plant addas a fforddiadwy yn broblem gyffredin a hirsefydlog,” meddai.
“Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn adolygu’r ddarpariaeth addysg a blynyddoedd cynnar ac yn nodi rhwystrau i gymorth fel rhan o’i chynllun gweithredu anabledd dysgu newydd, ac rwy’n croesawu hyn.
“Fodd bynnag, mae’n rhaid i’r Llywodraeth gymryd camau ar unwaith i sicrhau bod y gwasanaethau a chymorth sydd wirioneddol eu hangen yn hygyrch ac ar gael i rieni plant anabl.
“Mae’n wahaniaethol ac yn warthus nad yw rhieni’n fwy gwybodus am unrhyw gymorth sydd ar gael iddynt, a bod disgwyl iddynt fel mater o drefn dalu mwy am ofal plant os yw eu plant yn anabl – hynny yw, os gallant ddod o hyd i ddarpariaeth addas yn y lle cyntaf.”
‘Hybu hawliau pob plentyn’
“Ers dechrau datganoli, mae’r Senedd wedi arwain y ffordd drwy hybu hawliau pob plentyn. Rydyn ni’n dal i fod wedi ymrwymo i egwyddorion Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn,” meddai’r prif weinidog Mark Drakeford.
“Mae hyn yn golygu sicrhau bod anghenion pob plentyn yn cael eu bodloni a’u bod yn cael eu trin yn gyfartal bob un.
“Yn fwy cyffredinol, dwi wedi gweld ffigurau sy’n dangos bod bron i 600 o blant gydag anableddau yn ei rhanbarth hi yn cael gwasanaethau nawr yn y maes gofal plant, ac mae’r nifer wedi cynyddu dros y blynyddoedd.
“Mae’n cynyddu achos bod Llywodraeth Cymru yn ariannu’r sector, yn rhoi mwy o arian i’r sector, i greu mwy o gyfleoedd i blant â’r anableddau i gael y gwasanaethau sydd eu hangen iddyn nhw eu cael, ac rydym ni’n gwneud hynny drwy’r partneriaethau sydd gyda ni gyda’r awdurdodau lleol a gyda’r sector hefyd.
“Y ffordd i gynyddu nifer y plant sy’n gallu cael cymorth yw gwneud mwy gyda’r adeiladau i’w troi nhw i fod yn addas i’r plant, ond hefyd i hyfforddi’r bobol sy’n gweithio yn y maes er mwyn iddyn nhw gael y sgiliau sydd angen iddyn nhw eu cael i roi gwasanaethau i blant ag anableddau.
“Rydyn ni’n dal i weithio yn y maes yna. Os oes mwy o syniadau ar gael i wneud mwy yn y dyfodol, rydym ni’n awyddus i’w wneud e.”