Fe fu’n rhaid i awyren Air France o Mauritius i Baris lanio ar frys yn Kenya wedi i fom honedig gael ei ddarganfod mewn toiled.

Roedd hediad 463 ar ei ffordd i faes awyr Charles de Gaulle pan alwodd y peilotiaid am yr hawl i lanio ar frys ym maes awyr Moi ym Mombasa.

Roedd 459 o deithwyr ac 14 o aelodau staff ar yr awyren ar y pryd.

Cafodd arbenigwyr eu galw i gynnal ymchwiliad i’r ddyfais ffrwydrol.

Cafodd y maes awyr ei gau dros dro.

Dywedodd llefarydd ar ran Air France eu bod nhw’n cynnal ymchwiliad.