Mae adroddiad wedi rhybuddio na fyddai trechu’r Wladwriaeth Islamaidd yn rhoi terfyn ar eithafiaeth Islamaidd gan fod nifer o grwpiau’n barod i gymryd eu lle.

Dywedodd y Ganolfan Grefydd a Geo-wleidyddiaeth fod o leiaf 15 o grwpiau – neu 65,000 o filwyr – yn barod i gamu i’r bwlch pe bai ymdrechion yr Unol Daleithiau yn Syria ac Irac yn llwyddiannus.

Rhybuddiodd yr adroddiad fod 60% o wrthryfelwyr yn Syria yn uniaethu â syniadau crefyddol a gwleidyddol y brawychwyr.

Dywedodd y ganolfan, sydd o dan reolaeth Sefydliad Ffydd Tony Blair: “Mae’r Gorllewin mewn perygl o fethu’n strategol drwy ganolbwyntio’n llwyr ar IS.

“Ni fydd ei threchu’n filwrol yn rhoi terfyn ar jihadaeth fyd-eang.

“Allwn ni ddim bomio ideoleg, ond mae ein rhyfel yn un ideolegol.”

Daw’r adroddiad wedi i’r Cenhedloedd Unedig gefnogi trafodaethau brys rhwng Arlywydd Syria, Bashar Assad a grwpiau cymhedrol o wrthwynebwyr fis nesaf.

Ond rhybuddiodd y Ganolfan y gallai grwpiau radical megis Jabhat al-Nusra ac Ahrar al-Sham dyfu os nad ydyn nhw’n cael eu herio.

“Y perygl mwyaf i’r gymuned ryngwladol yw’r grwpiau sy’n rhannu ideoleg ISIS ond sy’n cael eu hanwybyddu yn y frwydr i drechu’r grŵp.

“Tra bod ymdrechion milwrol yn erbyn ISIS yn angenrheidiol, rhaid i wneuthurwyr polisi gydnabod na fydd ei threchu’n rhoi terfyn ar fygythiad Jihadaeth Salafi oni bai bod yr ideoleg niweidiol sy’n ei gyrru hefyd yn cael ei threchu.”