Mae Aelod Seneddol Llafur wedi dweud bod “tristwch eithriadol” yn dilyn marwolaeth yr Arglwydd Greville Janner o ganlyniad i glefyd Alzheimer yn 87 oed.
Penderfynodd yr Uchel Lys ddechrau’r mis nad oedd yr Arglwydd Janner yn ddigon iach i wynebu achos llys wedi iddo gael ei gyhuddo o droseddau rhyw hanesyddol.
Dywedodd Simon Danczuk fod ei farwolaeth yn peri “tristwch eithriadol” i deulu’r Arglwydd Janner ac i’w ddioddefwyr honedig.
Er nad oedd yn wynebu achos llys, roedd disgwyl i wrandawiad gael ei gynnal ym mis Ebrill er mwyn “nodi ffeithiau” yn dilyn honiadau ei fod wedi cyflawni 22 o droseddau rhyw yn erbyn naw o ddioddefwyr ers y 1960au.
Bellach, mae disgwyl i’r gwrandawiad gael ei ohirio er na fyddai wedi bod yn rhoi tystiolaeth.
Dywedodd Simon Danczuk: “Yn amlwg, mae’n drist iawn i deulu’r Arglwydd Janner ei fod e wedi mawr, ond mae’n eithriadol o drist hefyd i’w ddioddefwyr honedig.
“Mae’r ffaith fod Gwasanaeth Erlyn y Goron yn dweud na fydd y gwrandawiad i nodi’r ffeithiau’n mynd rhagddo nawr yn siomedig iawn.”
Ychwanegodd fod yr honiadau “yn rhai o’r enghreifftiau gwaethaf rwy wedi clywed amdanyn nhw”.
Mynegodd cyfreithwraig ar ran chwech o ddioddefwyr honedig fod marwolaeth yr Arglwydd Janner yn “rhwystredig iawn”, a mynegodd ei siom fod nifer o gyfleoedd i ddwyn achos wedi’u colli yn y gorffennol.
Awgrymodd Simon Danczuk y gallai’r honiadau gael eu trosglwyddo i ymchwiliad annibynnol i gamdrin plant sy’n cael ei arwain gan yr Ustus Lowell Goddard.
Mae’r troseddau honedig yn cynnwys 15 achos o ymosod yn rhywiol, a saith achos o drosedd rywiol arall rhwng y 1960au a’r 1980au.
Roedd 21 o’r cyhuddiadau yn cynnwys troseddau yn erbyn plant dan 16 oed.