(Llun: Elusen Brake)
Mae gyrwyr yn wynebu cosbau llymach am ddefnyddio ffôn symudol wrth yrru, yn ôl cynlluniau newydd Llywodraeth Prydain.

Bydd nifer y pwyntiau sy’n cael eu rhoi ar drwyddedau’n codi o dri i bedwar, a dirwyon yn codi 50% i £150.

Ond mae sefydliad yr IAM (Institute of Advanced Motorists) wedi rhybuddio na fydd y cynlluniau’n cael “effaith ddramatig” oni bai bod rhagor o heddlu ar y ffyrdd i’w gweithredu.

Fel rhan o’r cynlluniau, byddai gyrwyr HGV yn cael chwe phwynt am ddefnyddio ffôn wrth yrru.

Gall gyrwyr gael eu gwahardd rhag gyrru os ydyn nhw’n derbyn 12 pwynt o fewn tair blynedd.

Yn 2014, arweiniodd y defnydd o ffôn symudol wrth yrru at 21 o wrthdrawiadau angheuol ac 84 gwrthdrawiad difrifol.

Dywedodd Ysgrifennydd Trafnidiaeth Llywodraeth Prydain, Patrick McLoughlin: “Mae defnyddio ffôn symudol wrth y llyw yn ddi-ofal ac yn costio bywydau – rwy am ei weld yn dod yn dabŵ cymdeithasol fel y mae peidio gwisgo gwregys.”

Bydd cyfle i yrwyr sy’n cael eu dal am y tro cyntaf osgoi cael pwyntiau ar eu trwydded drwy fynd ar gwrs addysgiadol.

Ond dywedodd llefarydd ar ran yr IAM: “Yr hyn sydd ei angen yw cynyddu nifer y plismyn trafnidiaeth sy’n cyflwyno rheoliadau llymach, lle byddai modurwyr yn gofidio am ddefnyddio ffôn symudol wrth y llyw gan y byddan nhw’n cael eu dal, yn hytrach na chael dirwyon uwch.”

Yn ôl ystadegau’r Weinyddiaeth Gyfiawnder, cafwyd gostyngiad o bron i 50% yn nifer y bobol a gafodd eu herlyn am y drosedd yn ystod y pum mlynedd diwethaf.

Ond fe fu cynnydd o 1.4% yn nifer y gyrwyr a gafodd eu dal yn defnyddio ffôn wrth yrru o’i gymharu â 2009.

Mae disgwyl i Lywodraeth Prydain gynnal ymgynghoriad cyn cyhoeddi cynllun diogelwch ffyrdd yr wythnos nesaf.