Mae Bernie Sanders wedi ymddiheuro wrth Hillary Clinton a’i gefnogwyr ei hun am gamddefnyddio data am bleidleiswyr wrth i’r ddau gystadlu i fod yn ymgeisydd arlywyddol y Democratiaid.

Cafodd y mater ei grybwyll gan Sanders yn ystod dadl arlywyddol yn nhalaith New Hampshire, lle’r oedd diogelwch cenedlaethol a brawychiaeth ar frig yr agenda.

Derbyniodd Clinton yr ymddiheuriad cyn mynd ymlaen i feirniadu’r Gweriniaethwr Donald Trump a’i gynlluniau i atal Mwslemiaid rhag mynd i’r Unol Daleithiau.

Dywedodd Clinton mai prif ymgeisydd y Gweriniaethwyr yw “recriwtiwr gorau” y Wladwriaeth Islamaidd.

Cyhuddodd hi Trump o fod yn “ymfflamychol”.

Clinton v Sanders

Mae ymgyrchwyr ar ran Hillary Clinton wedi cyhuddo ymgyrchwyr Bernie Sanders o ddwyn gwybodaeth er mwyn targedu pleidleiswyr a rhagdybio’r math o faterion a fyddai’n ennyn eu diddordeb.

Yn dilyn y digwyddiad, cafodd ymgyrchwyr Sanders eu hatal gan Bwyllgor Cenedlaethol y Democratiaid rhag cael mynediad i’w data eu hunain.

Ond derbyniodd Sanders fod ei ymgyrchwyr wedi ymddwyn mewn modd amhriodol.

Cafodd un o’i weithwyr ei ddiswyddo, ond manteisiodd Sanders ar y cyfle i godi arian, gan ddweud bod y mater wedi bod o fudd i ymgyrch Hillary Clinton.

Wrth dderbyn ymddiheuriad Sanders, dywedodd Clinton: “Dylen ni symud ymlaen gan nad ydw i’n credu bod gan bobol America fawr o ddiddordeb yn hyn.”

Hefyd yn cymryd rhan yn y ddadl, oedd wedi para am ddwy awr, roedd cyn-lywodraethwr talaith Maryland, Martin O’Malley.

Er ei fod yn cael ei ystyried yn ymgeisydd ymylol, manteisiodd O’Malley ar y cyfle i gwestiynu rhai o brif bolisïau Clinton a Sanders.

Wrth drafod dryllau, cyhuddodd ei ddau wrthwynebydd o fod yn “chwit-chwat” yn eu hagwedd at y mater.

Tra bod Hillary Clinton yn ffafrio cyflwyno parthau di-awyren yn Syria a lleihau grym arlywydd y wlad, Bashar Assad, mae Bernie Sanders yn ffafrio gweithredu milwrol uniongyrchol er mwyn trechu eithafwyr Islamaidd.

Ond roedd y tri ymgeisydd yn cytuno y dylid cydweithio ymhellach â’r gymuned Foslemaidd i herio radicaliaeth.

Hon oedd y ddadl gyntaf ers cyflafan yn San Bernardino yng Nghaliffornia pan gafodd 14 o bobol eu lladd gan ddyn a dynes oedd wedi cael eu radicaleiddio.