Mae Heddlu’r De yn apelio am wybodaeth yn dilyn gwrthdrawiad ger Pen-y-bont ar Ogwr nos Iau.

Cafodd dyn 71 oed ei gludo i Ysbyty Treforys yn Abertawe wedi iddo gael ei daro gan gar Mazda MX5 tra’n cerdded ger Pizza Hut ar Whitethorn Drive ym Mracla am 7.20 y nos.

Cafodd anafiadau i’w goes ac mae’n derbyn triniaeth yn yr ysbyty o hyd.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101 neu Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.